Polisi Cwcis PayByPhone
Cyflwyniad
Mae PayByPhone yn defnyddio cwcis, picseli a thechnolegau tebyg eraill i gasglu gwybodaeth er mwyn deall yn well sut rydych yn rhyngweithio â'r Gwasanaethau, i fonitro defnydd cyfanredol gan ein defnyddwyr a llwybro traffig gwe ar ein Gwasanaethau, ac i wella ein Gwasanaethau.
Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau cwcis ar unrhyw adeg drwy agor y "Gosodiadau cwcis". Sylwch y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar ymarferoldeb ein Gwasanaethau.
Beth yw cwci
Ffeil ddata fach yw cwci sy'n cael ei throsglwyddo i ddisg galed eich cyfrifiadur. Gall PayByPhone ddefnyddio cwcis sesiwn a chwcis parhaus, yn arbennig er mwyn deall yn well sut rydych yn rhyngweithio â'n Gwasanaethau, i fonitro defnydd cyfanredol gan ein defnyddwyr a llwybro traffig gwe ar ein Gwasanaethau, ac i wella ein Gwasanaethau.
Sut i reoli a dileu cwcis
Os hoffech gyfyngu ar y cwcis a osodir gan ein gwefannau, neu unrhyw wefan arall, neu eu rhwystro, gallwch wneud hynny drwy osodiadau eich porwr. Dylai'r swyddogaeth 'Cymorth' yn eich porwr ddangos i chi sut i wneud hyn. Sylwch, fodd bynnag, y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar ymarferoldeb ein Gwefan.
Y cwcis a ddefnyddiwn a pham rydym yn eu defnyddio
Darnau bach o ddata yw cwcis y gellir eu hymgorffori mewn delweddau ar wefannau PayByPhone, yn ein Rhaglenni neu mewn gohebiaeth e-bost. Gallant olygu trosglwyddo gwybodaeth yn uniongyrchol i ni, i barti arall ar ein rhan, neu i barti arall yn unol â'n polisi preifatrwydd. Gallwn ddefnyddio'r technolegau hyn i ddwyn ynghyd y wybodaeth a gasglwn amdanoch.
Rhestr Cwcis
Darn bach o ddata (ffeil destun) yw cwci y mae gwefan – pan fydd defnyddiwr yn ymweld â hi – yn gofyn i'ch porwr ei storio ar eich dyfais er mwyn cofio gwybodaeth amdanoch, megis eich dewis iaith neu eich gwybodaeth mewngofnodi. Rydym ni'n gosod y cwcis hyn ac fe'u gelwir yn gwcis parti cyntaf. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti – sef cwcis o barth gwahanol i barth y wefan rydych yn ymweld â hi – ar gyfer ein gweithgareddau hysbysebu a marchnata. Yn fwy penodol, rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau tracio eraill at y dibenion canlynol:
Cwcis Cwbl Angenrheidiol
Mae'r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn i'r wefan weithredu, ac ni ellir eu diffodd yn ein systemau. Fel arfer, dim ond mewn ymateb i gamau gennych chi sy'n gyfystyr â chais am wasanaethau y cânt eu gosod, megis gosod eich dewisiadau preifatrwydd, mewngofnodi neu lenwi ffurflenni. Gallwch osod eich porwr i rwystro'r cwcis hyn neu eich rhybuddio amdanynt, ond ni fydd rhai rhannau o'r wefan yn gweithio wedyn. Nid yw'r cwcis hyn yn storio unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i'ch adnabod yn bersonol.
secure.paybyphone.com Parti cyntaf (First Party)
Cwcis a ddefnyddir: ASP.NET_SessionId, ClientSettings
secure.paybyphone.com Parti cyntaf (First Party)
Cwcis a ddefnyddir: _NS, OptanonAlertBoxClosed, OptanonConsent, PHPSESSID, geoip-country-code, cookie-primary-language
secure.paybyphone.com Trydydd parti (Third Party)
Cwcis a ddefnyddir: _NS, ClientSettings
onetrust.com Trydydd parti (Third Party)
Cwcis a ddefnyddir: __cfduid
cookielaw.org Trydydd parti (Third Party)
Cwcis a ddefnyddir: __cfduid
Cwcis Perfformiad
Mae'r cwcis hyn yn ein galluogi i gyfrif ymweliadau a ffynonellau traffig fel y gallwn fesur a gwella perfformiad ein gwefan. Maent yn ein helpu i wybod pa dudalennau yw'r rhai mwyaf a lleiaf poblogaidd ac i weld sut mae ymwelwyr yn symud o amgylch y wefan. Mae'r holl wybodaeth y mae'r cwcis hyn yn ei chasglu wedi'i chyfuno ac felly'n ddienw. Os na fyddwch yn caniatáu'r cwcis hyn, ni fyddwn yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â'n gwefan, ac ni fyddwn yn gallu monitro ei pherfformiad.
Gwasanaethau trydydd parti
Mae PayByPhone yn defnyddio amrywiaeth o wasanaethau a gynhelir gan drydydd partïon ar ein Gwefan i helpu i ddarparu ein Gwasanaethau, megis cynnal eich cyfrif PayByPhone, ac i'n helpu i ddeall y defnydd o'n Gwasanaethau.
Gall y gwasanaethau hyn gasglu gwybodaeth a anfonir gan eich porwr fel rhan o gais am dudalen we, megis cwcis neu eich cyfeiriad IP.
Gall trydydd partïon cymeradwy hefyd osod cwcis pan fyddwch yn rhyngweithio â Gwasanaethau PayByPhone. Ymhlith y trydydd partïon mae darparwyr gwasanaethau mesur a dadansoddi, rhwydweithiau cyfryngau cymdeithasol a chwmnïau hysbysebu.
Isod fe welwch wybodaeth fanylach am ddarparwyr dethol.
Defnydd o Drydydd Partïon
Plausible
Gallwn ddefnyddio Plausible i olrhain dadansoddeg y wefan. Mae Plausible yn cydymffurfio â'r GDPR, y CCPA a chyfraith cwcis gan nad yw'n defnyddio cwcis ac nad yw'n casglu unrhyw ddata personol. Nid yw Plausible yn tracio pobl ar draws eu dyfeisiau nac ar draws y gwefannau a'r apiau y maent yn ymweld â hwy. Gweler polisi data Plausible: https://plausible.io/privacy.
Cyffredinol
Gallwn ar unrhyw adeg newid neu ddiddymu'r Polisi Cwcis hwn, y Telerau ac Amodau, y Polisi Preifatrwydd, yr Hysbysiad Cyfreithiol neu unrhyw ran arall o'r Gwasanaethau. Byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw newid yn y modd a ddarperir gan y gyfraith berthnasol cyn dyddiad dod i rym y newid, naill ai drwy e-bost neu drwy gyhoeddi'r diweddariad ar ein Gwefannau. Daw'r holl ddiwygiadau, diweddariadau, addasiadau, amnewidiadau, fersiynau neu adolygiadau o'r fath i rym ar unwaith wedi eu cyhoeddi ar ein Gwefan.
Rydych yn cytuno'n benodol i dderbyn hysbysiad o'r fath am newid drwy hysbysiad a anfonir at y cyfeiriad e-bost diwethaf a roesoch i ni. Fodd bynnag, os gwneir y newid at ddibenion diogelwch, gallwn weithredu'r newid hwnnw heb rybudd ymlaen llaw. Os byddwch yn penderfynu nad ydych bellach yn cytuno i dderbyn newidiadau neu hysbysiadau'n electronig, gallwn ganslo neu atal y cytundeb hwn, neu unrhyw nodweddion neu wasanaethau'r Cyfrif a ddisgrifir yma, ar unrhyw adeg.
Mae pob cyfeiriad yn y Polisi Cwcis hwn at y Telerau ac Amodau, y Polisi Preifatrwydd, yr Hysbysiad Cyfreithiol ac unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â'r Gwasanaethau yn gyfeiriadau atynt fel y'u diwygiwyd, y'u diweddarwyd, y'u haddaswyd, y'u hamnewidiwyd neu y'u hadolygwyd. Bydd i bob gair â phriflythyren a ddefnyddir ond na chaiff ei ddiffinio yn y Polisi Cwcis hwn yr ystyron a roddir iddynt yn y Telerau ac Amodau.
I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data PayByPhone, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
Canolfannau Cymorth Cwsmeriaid
Os hoffech gysylltu â ni ar unrhyw adeg gyda'ch barn am ein harferion preifatrwydd, neu gydag unrhyw ymholiad ynghylch eich gwybodaeth bersonol, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â'n canolfannau cymorth fel y nodir yn ein Telerau ac Amodau a'n Polisi Preifatrwydd.