Mae PayByPhone wedi ymrwymo i barchu eich preifatrwydd achydymffurfio â’r holl gyfreithiau diogelu data a phreifatrwydd perthnasol. Yny Polisi Preifatrwydd hwn, disgrifiwn sut rydym yn casglu, defnyddio, rhannu agwarchod eich Data Personol.
Fel rhan o’n hymrwymiad i chi, rydym yn sicrhau bod eich DataPersonol yn gywir, yn gyfrinachol, ac yn ddiogel ac yn eich caniatáu i gaelmynediad, i gywiro, neu ddileu eich Data Personol. Er mwyn cynnig einGwasanaethau, rydym yn trosglwyddo eich Data Personol i Ganada ac i raidarparwyr gwasanaethau a all fod wedi’u lleoli mewn gwledydd eraill.
Pan fyddwch yn creu Cyfrif gyda ni neu’n defnyddio einGwasanaethau, rydych yn cytuno i’r Polisi Preifatrwydd hwn a’r Telerau ac Amodau. Pob tro byddwch yn defnyddio’chCyfrif neu ein Gwasanaethau, neu’n darparu gwybodaeth i ni, mae fersiwngyfredol y Polisi Preifatrwydd hwn a’r Telerau ac Amodau yn llywodraethuprosesu eich Data Personol.
Os nad ydych yn cytuno â thelerau’r Polisi Preifatrwydd hwn neu’rTelerau ac Amodau, ymataliwch rhag creu Cyfrif neu ddefnyddio ein Gwasanaethau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y PolisiPreifatrwydd hwn, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data perthnasol yn y cyfeiriada restrir yn Adran 16 isod.
Rhestrir y diffiniadau, er enghraifft ein Gwasanaethau, einHaelodau Cyswllt a rhagor, yn Adran 11 isod.
HYSBYSIAD ARBENNIG YNGLŶN Â PHLANT
Nid yw ein Gwasanaethau wedi’u cyfeirio at bobl dan 16. Nidydym yn fwriadol yn casglu gwybodaeth bersonol gan blant o dan 16. Os dewch ynymwybodol bod plentyn wedi darparu Data Personol i ni heb y caniatâd priodol,cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data yn y cyfeiriad a restrir yn Adran 15 isod achymerwn gamau i dynnu gwybodaeth o’r fath a therfynu’r cyfrif, yn ôl yr angen.
Tabl Cynnwys
1. Pwy sy’n prosesu’ch gwybodaeth?
2. Pa wybodaeth sy’n cael ei phrosesu?
3. Pam mae’ch gwybodaeth yn cael eiphrosesu?
4. Sut mae’ch gwybodaeth yn cael eiphrosesu?
5. Gyda phwy mae’ch gwybodaeth yn caelei rhannu?
6. Ble mae’ch gwybodaeth yn cael eithrosglwyddo?
7. Sut mae’ch gwybodaeth yn cael eichadw’n ddiogel?
8. Am ba mor hir mae’ch gwybodaeth yncael ei chadw?
9. Pa hawliau sydd gennych chi o raneich gwybodaeth?
10. Diffiniadau.
11. Stôr apiau; Dolennau i wefannau eraill.
12. Y gyfraith berthnasol.
13. Newidiadau i’r Polisi hwn.
14. Cwestiynau pellach.
15. Cysylltiadau.
1. Pwy sy’n prosesu’ch gwybodaeth?
Mae’n bosib fydd eich contract a’ch Cyfrif gyda PayByPhoneTechnologies Inc neu un o’i is-gwmnïau, gan gynnwys heb gyfyngiad PayByPhone USInc. (Yr Unol Daleithiau), PayByPhone Limited (Y Deyrnas Unedig), PayByPhoneSAS (Ffrainc, Monaco, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg), PayByPhone Suisse AG (YSwistir), PayByPhone Italia S.r.l. (Yr Eidal) neu PayByPhone Deutschland GmbH(Yr Almaen). Gyda’i gilydd, cyfeirir atyr holl endidau hyn fel “PayByPhone” yma. Mae'r parti contract perthnasol yn dibynnu ar y wlad rydych yn agor eichCyfrif ohoni ac y byddwch yn cynnal eich Sesiynau Parcio ynddi, fel y nodir ynfanylach yn yTelerau ac Amodau.
Mae eich parti contract PayByPhone a PayByPhone Technologies Inc.,sydd wedi'u corffori yng Nghanada, yn gyd-gyfrifol am brosesu eich DataPersonol, gan gynnwys yng nghyd-destun cofrestru a defnydd cyffredinol o'r Gwasanaethau,datblygu cynnyrch a system gan gynnwys sicrhau diogelwch TG, ac at ddibenionhysbysebu a marchnata. Mae'r rheolwyrwedi cytuno ymhlith ei gilydd pwy fydd yn cyflawni rhwymedigaethau penodol oran prosesu data a byddant yn cydweithio'n agos. Yn benodol, byddant yndarparu'r wybodaeth angenrheidiol i'w gilydd i gyflawni eu priod rwymedigaethauac i alluogi arfer hawliau gwrthrych data.
Bydd gennych ddiogelwch statudol yn y tiriogaethau cymwys ac nidyw’r Polisi Preifatrwydd hwn yn rhagfynegi’r hawliau statudol hynny.
Mae PayByPhone wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r holl ddeddfaupreifatrwydd cymwys (“Cyfreithiau Diogelu Data”), gan gynnwys heb gyfyngiad iDdeddf Diogelu Gwybodaeth Bersonol a Dogfennau Electronig Canada (“PIPEDA”),Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol Ewrop (“GDPR”) a Rheoliad Diogelu DataCyffredinol y DU (“GDPR DU”).
Mae Gweithredwyr Cyfleusterau ar gyfer y lleoliadau lle rydych ynparcio yn prosesu rhannau o'ch Data Personol sy'n ymwneud â'r Sesiynau Parcioyn eu cyfleusterau parcio ac sydd, ymhlith pethau eraill, yn eu galluogi iddilysu, gorfodi a dirwyon parcio.
I gael gwybodaeth am broseswyr ychwanegol eich Data Personol,gweler adran 5 isod.
2. Pa wybodaeth sy’n cael ei phrosesu?
Dim ond Data Personol sy'n ofynnol i greu Cyfrif ac i gynnig yGwasanaethau rydych chi'n gofyn amdanynt ac i gyfathrebu â chi rydyn ni'n eucasglu a'u prosesu.
Rydych chi, ac unrhyw un rydych chi yn awdurdodi i ddefnyddio’rCyfrif, yn darparu rhywfaint o'r wybodaeth hon yn uniongyrchol pan fyddwchchi'n creu Cyfrif, yn defnyddio Gwasanaeth neu'n cysylltu â ni i gaelcefnogaeth, gan gynnwys:
Mewn rhai achosion, er enghraifft pan fyddwchyn caniatáu i barti arall, fel eich cyflogwr, i dalu am sesiynau parcio ar eichCyfrif trwy gysylltu eich Cyfrif â hwy ac yn ychwanegu eu dull talu i'chCyfrif, gofynnwn i chi neu berchennog y dull talu i ddarparu eich:
Efallai y byddwch hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i ni panfyddwch yn dewis agor eich Cyfrif gan ddefnyddio gwybodaeth o wasanaethautrydydd parti sydd gennych yn barod, gan gynnwys:
· Gosodiadau a manylion adnabod eich dyfais
· Manylion adnabod o ap neu lwyfan trydydd parti
Efallai y byddwch hefyd yn dewis rhoi gwybodaeth ychwanegol i nier mwyn cael Gwasanaeth neu dderbyn cyfathrebiadau gennym gan gynnwys:
Gallech stopio ein darparu â’r wybodaeth ychwanegol hon ar unrhywadeg trwy addasu gosodiadau’ch Cyfrif yn yr Ap, ar y Wefan neu drwy gysylltu âni.
Rydym hefyd yn casglu data yn anuniongyrchol pan fydd einmeddalwedd yn rhyngweithio â'ch dyfais a phan fyddwn yn defnyddio technolegaufel cwcis a negeseuon gwall. Gall hyn gynnwys:
Gweler ein Polisi Cwcis am ragor o wybodaeth arddefnydd cwcis.
Byddwn hefyd weithiau yn cael data amdanoch gan drydydd partïon(gan gynnwys gweithredwyr parcio, hwyluswyr taliadau, asiantaethau gorfodaethparcio a gweithgynhyrchwyr caledwedd/meddalwedd). Er enghraifft:
· Pan fyddwch yn cofrestru cerdyn credyd neu gerdyn debyd â ni iddefnyddio’r Gwasanaeth, byddwn yn defnyddio gwasanaethau awdurdodi cardiau asgrinio twyll i wirio bod gwybodaeth eich cerdyn yn cyd-fynd â gwybodaeth arallrydych yn rhoi i ni, ac ni adroddwyd bod y cerdyn wedi'i golli neu wedi'iddwyn.
· Pan fyddwch yn optio i mewn i Autopass (ar gael mewn rhaigwledydd), Gwasanaeth sy'n caniatáu i chi dalu’n awtomatig am barcio mewncyfleusterau sy'n cefnogi cydnabyddiaeth plât rhif awtomatig, byddwn yn caelamser mynediad ac ymadawiad y cerbyd o'r cyfleuster parcio gan y gweithredwrparcio ac efallai y byddwn yn derbyn ffotograff o'r cerbyd a gymerwyd ar ypryd.
3. Pam mae’ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu?
Rydym ynprosesu eich gwybodaeth fel y gallwn gynnig ein Gwasanaethau i chi achyfathrebu â chi.
Ein Gwasanaethau
Pan fyddwn ynprosesu’ch Data Personol mewn perthynas â’n Gwasanaethau (gan gynnwys, hebgyfyngiad, i wasanaeth i gwsmeriaid, negeseuon diogelwch, prosesu taliadau,anfon derbynebau a nodiadau atgoffa am ddiwedd sesiwn parcio) a'n dibenion mewnolcysylltiedig (gan gynnwys gweinyddiaeth, rheoli risg, cydymffurfio, datblygucynnyrch, ymchwil, casglu dyledion, archwilio ariannol, diogelwch a chadwcofnodion,) rydym yn dibynnu ar y sail gyfreithlon o fod â pherthynasgontractol â chi. Er mwyn cynnig yGwasanaethau i chi, mae’n amod eich bod yn darparu’r data personol hynny sy’nofynnol er mwyn i ni ymrwymo i gontract a chyflawni contract gyda chi ar gyfery Gwasanaethau a ddewiswch ac i ni gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithioler mwyn darparu Gwasanaethau o'r fath. Heb y data hyn, ni fyddwn yn gallucyflawni ein rhwymedigaethau o dan gontract gyda chi ac yn gorfod gwrthodymrwymo i gontract neu derfynu contract presennol.
Cydsyniad
Pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth i gyfathrebu â chi (gangynnwys am ein hyrwyddiadau a chynigion ni a chysylltiedig, cynigion achyrwyddiadau trydydd parti, digwyddiadau sy’n digwydd mewn ardaloedd llegwnaethoch barcio yn ddiweddar, hysbysebu wedi ei dargedu a marchnatagwasanaethau), rydym yn dibynnu ar sail gyfreithlon cydsyniad i brosesu’ch DataPersonol ac rydym wedi ymrwymo i gael y caniatâd hwnnw mewn ffordd gyfreithlon.
Gallwch ddarparu eich caniatâd yn yr Ap, ar y Wefan neu ar lafari'n cynrychiolwyr awdurdodedig. Byddwch yn cael eich gofyn yn benodol oshoffech optio mewn i bob un o’r cyfathrebiadau hyn a gallwch ddewis ai derbynrhai, pob un, neu dim un o’r cyfathrebiadau hyn.
Oni bai fod y math o ddefnydd ynangenrheidiol i ni ddarparu'r Gwasanaethau, bydd gennych yr hawl i dynnu’chcaniatâd i ddefnydd o'r fath ar unrhyw adeg (mwy ar hyn isod) trwy gysylltu â ni,gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fewngofnodi i’ch Cyfrif ar y Wefan, yn yr Ap neu gyflwynotocyn cymorth, gan alw’ch Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid. Byddwch yn cael y cyfle i ddad-danysgrifiobob tro rydyn ni'n cyfathrebu â chi tu allan i’rap a/neu drwy eich gosodiadau ap. Nodwch y gall eich penderfyniad iddal yn ôl neu i dynnu yn ôl eich caniatâd i rai defnyddiau eraill o DdataPersonol neu rai mathau o gyfathrebu cyfyngu ar ein gallu i ddarparu gwasanaethneu gynnyrch penodol.
Yn ddarostyngedig i Gyfreithiau Diogelu Data, gallwn gasglu,defnyddio, storio neu rannu Data Personol heb eich caniatâd o dan yramgylchiadau cyfyngedig canlynol:
Diddordeb Cyfreithlon
Pan ganiateir hynny gan y gyfraith, byddwn yn prosesu eich DataPersonol ar sail ein diddordeb cyfreithlon, er enghraifft wrth gysylltu â chiam gynigion o gynhyrchion newydd a chynnal arolygon boddhad cwsmeriaid i wellaein gwasanaethau neu anfon cylchlythyrau atoch a gwasanaeth sy’n ymwneud âpharcio, defnydd cerbydau neu ffyrdd. a negeseuon diogelwch. Ar gyfer ymath hwn o brosesu, byddwn bob amser yn ystyried effaith prosesu o'r fath ar eichhawliau a'ch rhyddidau sylfaenol, ac os rydym yn credu y byddai'r cyfathrebu'nymyrru ar eich hawliau, ni fyddwn yn parhau â'r cyfathrebiad hwnnw.
Mae PayByPhone Technologies Inc. yn gweithredu ar sail diddordebcyfreithlon yn y defnydd grŵp cyfan o seilwaith TG canolog (gan gynnwys argyfer cofrestru a phrosesu trafodion parcio, datblygu cynnyrch a systemau asicrhau diogelwch TG).
Gallwch optio allan o dderbyn cyfathrebiadau dilys sy’n seiliedigar log drwy fewngofnodi i’ch Cyfrif ar y Wefan neu yn yr Ap neu drwy ffonio’chCanolfan Cymorth i Gwsmeriaid neu ysgrifennu at eich Swyddog Diogelu Datapriodol yn y cyswllt a restrir yn Adran 15 o’r Preifatrwydd hwn Polisi. Nodwchy gallai eich penderfyniad i optio allan gyfyngu ar ein gallu i ddarparu gwasanaethneu gynnyrch penodol.
4. Sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei phrosesu?
Dim ond at y dibenion y mae gennym sail gyfreithlon ar eu cyfer yrydym yn prosesu eich Data Personol.
Mae rhywfaint o brosesu sy'n gysylltiedig â’r pwrpas o ddarparuein Gwasanaethau i chi yn cynnwys:
Mae rhywfainto brosesu sy’n gysylltiedig â’r diben o gyfathrebu â chi yn cynnwys (a gefnogirgan eich caniatâd lle bo angen):
5. Gyda phwy mae’ch gwybodaeth yn cael ei rhannu?
Ni fyddwn byth yn defnyddio nac yn datgelu’ch Data Personol onibai bod gennym sail gyfreithlon i wneud hynny.
Nid ydym yngwerthu eich Data Personol i bartïon tu all i PayByPhone. Ni fyddwn yn rhentu,trwyddedu na chyfnewid rhestrau cwsmeriaid na'ch Data Personol i bartïon erailly tu allan i PayByPhone, ond ac eithrio fel y disgrifiwn isod.
Ni fydd unrhyw Ddata Personol yn cael ei rannu â thrydydd partïon,yn eithrio, fel sy'n ofynnol, i gynnig y Gwasanaethau i chi neu fel rydychchi'n cydsynio'n benodol. Gallwn:
P'un a ydym ynrhannu eich data gyda thrydydd parti ai peidio, gallwch anfon unrhyw geisiadausy'n ymwneud â data atom yn uniongyrchol. Os bydd angen, byddwn yn anfon y cais ymlaen at unrhyw drydydd partiperthnasol.6. Ble mae’ch gwybodaeth yn caelei throsglwyddo?
Byddwn yn trosglwyddo'ch Data Personol i PayByPhone yng Nghanada,ni waeth pa wlad rydych chi'n byw ynddi neu rydych chi'n darparu Data Personolohoni.
Mae trosglwyddiad eich Data Personol yn cael ei wneud mewn fforddddiogel ac yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedicanfod, ar sail Erthygl 45 o'r GDPR, bod Canada, er nad yw wedi'i rhwymo gan yGDPR, yn sicrhau lefel ddigonol o amddiffyniad i ddata personol. Roedd ypenderfyniad digonolrwydd hwn yn ystyried cyfraith ddomestig Canada, eihawdurdodau goruchwylio a'i hymrwymiadau rhyngwladol y mae wedi'u gwneud.
Efallai y byddwn hefyd yn trosglwyddo'ch Data Personol i gyflenwyrtrydydd parti mewn gwledydd eraill i ddarparu rhan o'n Gwasanaeth i chi. Yn eincytundebau gyda'r partïon hyn, rydym yn ei wneud yn ofynnol iddynt ddiogelu’chData Personol a chadw at Gyfreithiau Diogelu Data ac rydym yn sicrhau eu bodwedi darparu diogelwch priodol.
Efallai bydd eich gwybodaeth bersonol ar gael i awdurdodaurheoleiddiol, gorfodi’r gyfraith a diogelwch cenedlaethol yr awdurdodaethauhynny, a gallai fod yn destun datgelu yn unol â chyfreithiau'r gwledydd hynny.
8. Sut mae’ch gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel?
Rydym wedi rhoi mesurau diogelu technegol a sefydliadol priodol arwaith i ddiogelu’ch Data Personol rhag mynediad, casglu, defnyddio, datgelu,copïo, addasu, gwaredu neu risgiau tebyg heb eu hawdurdodi.
Mae PayByPhone yn ymrwymo i'r mesurau diogelwch canlynol:
Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru ein polisïau a’n rheolaethaudiogelwch yn barhaus wrth i dechnoleg newid i sicrhau diogelwch parhaus i’chData Personol.
9. Am ba mor hir mae’ch gwybodaeth yn cael ei chadw?
Bydd PayByPhone yn cadw'ch data yn unol â Chyfreithiau DiogeluData.
Byddwn yn cadw’ch Data Personol (gan gynnwys gwybodaeth sy'nymwneud â phob sesiwn barcio ac â phob un o'ch Trafodion) am gyhyd ag sy'nrhesymol angenrheidiol i gyflawni'r dibenion y casglwyd y wybodaeth ar eu cyferneu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Os ydych yn creu Cyfrif gyda ni, byddwn yncadw’ch Data Personol cyhyd bod gennych y Cyfrif hwnnw. Os byddwch yn caueich Cyfrif neu os nad oes gweithgaredd ar eich cyfrif (gan gynnwys dimmewngofnodi a dim sesiynau parcio) am gyfnod o fwy na 3 blynedd, byddwn ynmarcio'ch Cyfrif yn ein cronfa ddata fel "Wedi Cau," ond efallai ybydd yn rhaid i ni gadw rhywfaint o wybodaeth cyhyd ag sy'n ofynnol igydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, sy’n gallu bod hyd at 10 mlynedd.
10. Pa hawliausydd gennych chi o ran eich gwybodaeth?
Yn ôl y trefniant rheolydd rhwng eich parti contract PayByPhone aPayByPhone Technologies Inc., eich parti contract PayByPhone sy'n gyfrifol amgyflawni'r rhwymedigaethau sy'n ymwneud â hawliau gwrthrych data.
Gallwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data lleol perthnasol yn ycyfeiriad a nodir yn Adran 16 isod gyda cheisiadau sy'n ymwneud â'r hawliau addisgrifir isod. Rydych hefyd yn rhydd ifynnu eich hawliau gwrthrych data yn erbyn PayByPhone Technologies Inc. yn ycyswllt a restrir yn llinell gyntaf Adran 16 isod.
Gellir gwneud unrhyw gais i PayByPhone trwy gysylltu â'r tîmcymorth i gwsmeriaid neu'n ysgrifenedig. Bydd yn rhaid i chi ddarparu digon ofanylion i nodi'r Data Personol sy'n berthnasol i chi. Mae’n bosib y byddPayByPhone yn gofyn i chi gadarnhau eich hunaniaeth. Bydd PayByPhone yn ymdrinâ’r cais o fewn 30 diwrnod busnes neu yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o estyniadlle mae angen amser ychwanegol i gyflawni'r cais.
Mynediad
Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad i'ch Data Personol, i wybodsut rydym yn ei ddefnyddio a phwy rydym wedi ei ddatgelu iddo, yn amodol ar raieithriadau cyfyngedig.
Gallwch haeru’r hawl hon trwy gyrchu’ch Cyfrif ar y Wefan neu’rAp. Gallwch hefyd gysylltu â ni gyda chais mynediad at Ddata Personol a byddwnyn cymryd pob cam rhesymol i'ch cynorthwyo gydag unrhyw gais dilys am fynediad.
Efallai na fyddwn mewn sefyllfa i ymateb i gais am fynediad data.Os caiff cais ei wrthod yn llawn neu yn rhannol, byddwn yn nodi hwn i chi ynysgrifenedig, ac yn darparu'r rhesymau dros wrthod a'r hawl sydd ar gael i chi.
Cywiro
Mae gennych yr hawl i sicrhau bod eich Data Personol yn gywir.
Rydym yn gwneud ymdrechion rhesymol i sicrhau bod Data Personolpob un o’n defnyddwyr yn cael ei gadw’n gywir ac yn gyflawn. Os mai chi ywdeiliad y Cyfrif, rydym yn darparu offer i gyrchu neu addasu'r Data Personolsy'n gysylltiedig â'ch Cyfrif i chi. Gallwch hefyd ofyn i ni gywiro'ch DataPersonol.
Os yw’ch Data Personol yn ymddangos yn anghywir neu’n anghyflawn,i'r graddau y mae'n ymarferol, a chyn gynted ag sy'n ymarferol, byddwn yncywiro’ch Data Personol ac yn anfon yr wybodaeth gywir i unrhyw sefydliad ygwnaethom ddatgelu'r Data Personol iddo yn y flwyddyn flaenorol. Os na fydd ycywiriad yn cael ei wneud, byddwn yn nodi'ch cais am gywiro yn eichffeil.
Dileu
Mae gennych yr hawl i dderbyn cael gwared â’ch Data Personolgennym.
Ar unrhywadeg, gallwch ddileu’ch Cyfrif drwy’r Ap. Os felly, bydd eich data sy'ngysylltiedig â chreu'r Cyfrif yn cael eu dileu. Bydd yn rhaid i chi sefydluCyfrif newydd ac ychwanegu eich gwybodaeth bersonol eto. Oherwyddrhwymedigaethau cyfreithiol, efallai na fyddwn yn gallu dileu’r holl ddata arunwaith.
Gallwch hefydofyn i ni ddileu'ch Data Personol. Os byddwch yn gofyn am ddileu eich DataPersonol, byddwn yn defnyddio ymdrechion masnachol resymol i ddileu eich DataPersonol o'n ffeiliau, fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu dileu rhywfainto'ch Data Personol i'r graddau y mae eu hangen o hyd ar gyfer cyflawni einrhwymedigaethau cyfreithiol. Efallai y byddwn hefyd yn cadw, defnyddio, arhannu’ch Data Dienw ein bod wedi ei gasglu’n barod cyn i chi ddileu eichCyfrif.
Tynnu’r caniatâd yn ôl (pan fydd yprosesu’n seiliedig ar gydsyniad)
Fel y nodwyd uchod, pan fydd PayByPhone yn dibynnu ar gydsyniadfel sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’ch Data Personol, gallwch gael gwared argydsyniad o'r fath ar unrhyw adeg, mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
Nodwch, gall newid eich caniatâd arwain at newid yn eichGwasanaethau a'ch profiad.
Gwneud cwyn
Mae gennych yr hawl i gyfathrebu â PayByPhone ynglŷn ag unrhywfaterion a allai fod gennych yn ymwneud â'ch Data Personol.
Mae Swyddog Diogelu Data eich parti contract PayByPhone priodol yngyfrifol am sicrhau bod PayByPhone yn cydymffurfio â'r Polisi Preifatrwydd hwna'r Deddfau Diogelu Data. Dylech gyfeirio unrhyw gwynion, pryderon neugwestiynau ynghylch cydymffurfio â PayByPhone yn ysgrifenedig at y SwyddogDiogelu Data priodol yn y manylion cyswllt isod yn Adran 16.
Gallwch hefydysgrifennu at Gomisiynydd Preifatrwydd Canada neu'r awdurdod goruchwyliopreifatrwydd yn eich gwlad.
11. Diffiniadau
12. Stôr apiau; Dolennau i wefannau eraill
Efallai y bydd eich stôr apiau (e.e. iTunes neu Google Play) yncasglu gwybodaeth benodol mewn cysylltiad â'ch defnydd o'r Ap, megis DataPersonol, Gwybodaeth Talu, gwybodaeth geo-gymdeithasol, a data arall sy'nseiliedig ar ddefnydd. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gasglu gwybodaetho'r fath gan stôr apiau trydydd parti a bydd unrhyw gasgliad neu ddefnydd o'rfath yn ddarostyngedig i bolisïau preifatrwydd cymwys y trydydd parti hwnnw.
Mae rhai tudalennau ar y Wefan a'r Ap yn cynnwys dolenni iwefannau trydydd parti. Mae'r safleoedd trydydd parti hyn yn cael eullywodraethu gan eu datganiadau preifatrwydd eu hunain, ac nid ydym yn gyfrifolam eu gweithrediadau, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'w harferiongwybodaeth. Dylech adolygu datganiad preifatrwydd y safleoedd trydyddparti hynny cyn darparu unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy iddynt. Nid ywPayByPhone yn gyfrifol am brosesu Data Personol ar y safleoedd trydydd partihynny. Rydym yn eich cynghori’n gryf i beidio â rhannu unrhyw wybodaethbersonol am eich Cyfrif, gan gynnwys eich rif cyfrif neu gyfrinair, ar unrhywwefan cyfryngau cymdeithasol neu gydag unrhyw ap trydydd parti nad yw’n cael eiweithredu gan PayByPhone.
13. Y gyfraith berthnasol
Bydd pob mater sy’n gysylltiedig â’r Polisi Preifatrwydd hwn yncael ei lywodraethu ar bob cyfrif gan y cyfreithiau a bydd pob anghydfod ynddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw yn y llysoedd cymwys sydd wedi'u lleoliyn yr awdurdodaeth sy’n gysylltiedig â’r endid PayByPhone lle mae gennychgontract, ac yn eithrio cymhwyso unrhyw wrthdaro rhwng deddfau, egwyddoriona/neu reolau. Yn achos PayByPhoneTechnologies Inc., yr awdurdodaeth berthnasol yw Talaith British Columbia,Canada (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Ddeddf Diogelu Defnyddwyr sy'n berthnasoli drigolion Quebec), yn achos PayByPhone US Inc. – Talaith Delaware, yr UnolDaleithiau, yn achos PayByPhone Limited - y Deyrnas Unedig, yn achos PayByPhoneSAS - Ffrainc, yn achos PayByPhone Suisse AG - y Swistir, yn achos PayByPhoneItalia S.r.l. - yr Eidal, ac yn achos PayByPhone Deutschland GmbH - yrAlmaen. Er gwaethaf yr uchod, rydych yncytuno, serch hynny, i PayByPhone wneud cais am ymwared ecwitïol mewn unrhywawdurdodaeth. Rydych hefyd yn cytuno i gydymffurfio â holl gyfreithiau arheolau lleol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r rhai sy’n berthnasol iymddygiad ar-lein a chynnwys Rhyngrwyd derbyniol.
14 Newidiadau i’r Polisi hwn
Efallai y byddwn yn diwygio, diweddaru, addasu, amnewid, neuadolygu’r Polisi Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg gan gyfathrebu’r diweddariadauhynny gyda chi a thrwy eu postio ar ein Gwefan. Mae pob diwygiad, diweddariad,addasiad, amnewidiad, fersiwn neu adolygiad o’r fath yn effeithiol ar unwaithwrth eu postio ar ein Gwefan. Mae pob cyfeiriad yn y Polisi Preifatrwydd hwni’r Telerau ac Amodau, Hysbysiad Cyfreithiol, ac unrhyw faterion Gwasanaethaueraill yn gyfeiriadau at yr un peth ag y cânt eu diwygio, eu diweddaru, euhaddasu, eu hamnewid neu eu hadolygu.
15. Cwestiynau pellach
Os hoffech gysylltu â ni ar unrhyw adeg gyda’ch barn am einharferion preifatrwydd, neu gydag unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’chgwybodaeth bersonol, gallech wneud hynny drwy e-bostio ni yn y cyfeiriadau arestrir isod.
16. Cysylltiadau
Gwybodaeth gyswllt am Swyddog Diogelu Data PayByPhone: