PayByPhone

Hysbysiad Cyfreithiol

Hysbysiad Cyfreithiol

Mae’chdefnydd o’r wefan PayByPhone hon (y “Wefan”) yn ddarostyngedig i deleraucytundeb cyfreithiol rhyngoch chi a PayByPhone Technologies Inc.(“PayByPhone”), yn yr Hysbysiad Cyfreithiol hwn (“Hysbysiad”).

 

Gwybodaeth Amdanom Ni

Mae'r Parti Cymwys yn dibynnu ar y wlad rydychyn agor eich Cyfrif ohoni ac y byddwch yn cyrchu'r Wefan ohoni. Rhestrir yparti perthnasol isod ar gyfer pob un o'r gwledydd lle mae'r gwasanaethPayByPhone ar gael:  

Canada - PayByPhone Technologies Inc.

Yr Unol Daleithiau - PayByPhone US Inc.

Y Deyrnas Unedig - PayByPhone Limited

Ffrainc, Monaco, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg - PayByPhone SAS

Yr Almaen - PayByPhone Deutschland GmbH

Y Swistir - PayByPhone Suisse AG

Yr Eidal - PayByPhone Italia S.r.l.

Gyda’i gilydd, cyfeirir atyr holl endidau hyn fel “PayByPhone” yma. Os ydych yn cyrchu'r Wefan y tu allani un o'r gwledydd a restrir uchod, mae'r cytundeb cyfreithiol rhyngoch chi aPayByPhone Technologies Inc. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth gyfreithiol arddiwedd y wefan hon yn yr adran gwybodaeth gwlad benodol.

 

Cyrchu'r Wefan hon

Mae’n rhaid i chi lynu at delerau’r Hysbysiadhwn pan fyddwch chi’n defnyddio’r Wefan hon. Mae’ch defnydd o’r Wefan yn golygueich bod yn derbyn y telerau ac amodau a amlinellir yn yr Hysbysiad hwn. Os nafyddwch chi’n cytuno â’r telerau, amodau a chyfyngiadau a amlinellir yn yrHysbysiad hwn, eich unig ddewis fydd peidio defnyddio’r Wefan.

Mae’rHysbysiad hwn yn gymwys i’ch defnydd o’r Wefan. Os byddwch chi’n penderfynu creucyfrif gyda ni, lawrlwytho ein Hap, neu fel arall yn defnyddio’n Gwasanaethausymudol talu am barcio, byddwch chi’n ddarostyngedig i’r Telerau ac Amodau. Maeein Polisi Preifatrwydd yn gymwys i’ch defnydd o’n Gwasanaethau, gan gynnwys yWefan hon.

Hawliau Eiddo Deallusol

Mae’rholl eiddo deallusol yn cynnwys patentau, nodau masnachu, enwau masnachu,logos, enwau cwmnïau, enwau brand, nodau dyluniad, gwisg masnach, enwau adisgrifiadau cynhyrchion neu wasanaethau, emblemau, hysbysiadau hawlfraint (cofrestredigneu anghofrestredig) (gyda’i gilydd y "Nodau"), ynghyd â’r wybodaetha chynnwys a arddangosir, a gyflwynir, neu a reolir, neu a gynhwysir fel arallyn y Wefan neu arni, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r testun,graffigau, delweddau, portreadau, lawrlwythiadau digidol, darluniau, fideo,sain, animeiddiad, meddalwedd, a’u ffeiliau cysylltiedig; trefniant y rheini ary Wefan; edrychiad a theimlad y Wefan; profiad y defnyddiwr o’r Wefan; ycyfuniadau lliw; siapiau botymau, meintiau, eiconau, delweddau, trefniant; acelfennau graffigol eraill gan gynnwys holl weithiau deilliannol y rhai a enwyd(gyda’i gilydd y “Deunyddiau”), fel y’u dangosir ar y Wefan a/neu sy’n cael eugweld ar y wefan neu eu cyrchu o’r wefan hon yn eiddo i PayByPhone, ei aelodaucyswllt, cyflenwyr, a/neu gynrychiolwyr. Rydych yn cydnabod ac yn cytuno bod yDeunyddiau wedi’u diogelu gan gyfreithiau eiddo deallusol a chystadleuaethryngwladol amrywiol. Ni cheir atgynhyrchu rhan o’r Deunyddiau neu’r data syddyn y Deunyddiau yn eu cyfanrwydd na’n rhannol oni bai yr awdurdodir yn benodolgennym yn ysgrifenedig neu oni bai yr awdurdodir yn benodol gan yr Hysbysiadhwn.

Ymwadiad

Er bod PayByPhone yn ceisio sicrhau cywirdeb acansawdd y Deunyddiau ar ein Gwefan, gall ein deunyddiau gynnwys anghywirdebautechnegol neu wallau teipograffyddol. Darperir y Wefan hon a’r Deunyddiau âphob nam ar sail “fel y mae” a “fel y mae ar gael”. Mae PayByPhone, ei rieni,aelodau cyswllt, cyfarwyddwyr, cyflogeion, dosbarthwyr, cyflenwyr, trwyddedwyr,cynrychiolwyr, asiantiaid, neu adwerthwyr (gyda’i gilydd, yr “EndidauPayByPhone”) yn gwadu pob gwarantiad, naill ai’n benodol neu’n awgrymedig, yncynnwys y gwarantiadau fod y Wefan a’r deunyddiau yn rhydd rhag diffygion, hebfirysau, ac yn gallu gweithredu ar sail ddi-dor, y byddant yn ateb eichgofynion, neu y bydd gwallau’n cael eu cywiro, a’r gwarantiadau awgrymedig fody wefan yn farchnaddiadwy, o ansawdd boddhaol, cywir, diogel, addas i bwrpasneu angen penodol, neu ddim yn tresmasu, oni bai fod y fath warantiadauawgrymedig yn analluog yn gyfreithiol i gael eu heithrio. Ni fydd cyngor neuwybodaeth a roddir gan yr Endidau PayByPhone yn creu gwarantiad nac yn ehangucwmpas unrhyw warantiad (os o gwbl) o unrhyw fath na ellir ymwadu rhagddo o dangyfraith gymwysadwy. Bydd eich defnydd o’r Wefan hon a’r Deunyddiau ar eichmenter eich hun yn unig.

 

Newidiadau i’r wefan hon

Mae gennym yr hawl arunrhyw adeg i newid, addasu, ychwanegu at neu ddwyn i ben neu ymddeol unrhywagwedd neu nodwedd o’r Wefan neu Ddeunyddiau, gan gynnwys, ond heb fod yngyfyngedig i’r meddalwedd, cynnwys, oriau argaeledd, neu argaeledd y Wefan neuDdeunyddiau ar unrhyw ddyfais, system weithredu, neu wasanaeth cyfathrebupenodol. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad cyfreithiol hwn yn dod i rym ytro nesaf y byddwch yn cyrchu’r wefan hon. Disgwylir i chi wirio’r HysbysiadCyfreithiol hwn o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newid a wnaethom, ganeu bod yn eich rhwymo. Er gwaethaf yr uchod, ni fydd yn rhaid i ni gadw'r wefanhon yn gyfredol. Os bydd angen, gallwn atal mynediad at y wefan hon, neu eichau am gyfnod amhenodol.

Ein Hatebolrwydd

I’r graddau uchaf a ganiateir gan y gyfraith, nifydd yr Endidau PayByPhone yn atebol am unrhyw niwed anuniongyrchol, arbennig,achlysurol, dilyniannol, nac enghreifftiol sy’n deillio o’r defnydd o,camddefnydd o, anallu i ddefnyddio, na dibyniaeth ar y wefan hon neu’rdeunyddiau, gan gynnwys, heb gyfyngiad, iawndal am golli defnydd, data,cyfleoedd busnes, cynilion neu elw. Mae’r cyfyngiad hwn yn gymwys a yw’rrhwymedigaeth a honnir yn seiliedig ar gontract, twyll, esgeulustod,atebolrwydd llym, neu unrhyw sail arall, hyd yn oed os yw’r Endidau PayByPhonewedi cael eu cynghori am bosibilrwydd y fath niwed. Bydd y fath gyfyngiad yngymwys er unrhyw fethiant pwrpas hanfodol unrhyw ateb cyfyngedig ac i’r graddaullawnaf a ganiateir gan y gyfraith. Yn ogystal, ni fydd yr Endidau PayByPhoneyn cael eu dal yn gyfrifol nac yn atebol, yn uniongyrchol, neu’nanuniongyrchol, am unrhyw golled neu niwed a achosir neu yr honnir iddo gael eiachosi i chi mewn cysylltiad â’r defnydd o neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys,nwyddau, neu wasanaethau ar gael ar neu drwy unrhyw wefannau sy’n gysylltiedigâ neu o’r wefan hon.

Eich Atebolrwydd

Byddwch yn cydnabod bod toriadau gennych chi o’rHysbysiad hwn yn achosi hawliau gweithredu fydd yn caniatáu i PayByPhone orfoditelerau ac amodau’r Hysbysiad hwn, gan gynnwys pob hawl sy’n codi o dangyfreithiau ffederal a thaleithiol/talaith sy’n ymwneud â hawlfraint, nodmasnachu, patent, cyfrinach masnachu, a hawliau eraill ynghylch hawliauperchnogol. Byddwch yn cytuno, os na fyddwn yn ymarfer nac yn gorfodi unrhywhawl gyfreithiol neu ateb sydd yn yr Hysbysiad hwn (neu mae gennym y budd ohonoo dan unrhyw gyfraith gymwys), ni fydd hyn yn cael ei gymryd fel ildiadffurfiol o hawliau PayByPhone a bydd yr hawliau neu atebion hynny yn dal argael i PayByPhone.

Indemniad

Rydychyn cytuno i'n hindemnio ni a'n Cysylltiadau a'n cadw ni a'n Cysylltiadau wedi'uhindemnio'n llawn ac yn effeithiol mewn perthynas â'r holl golledion, costau(gan gynnwys ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol), iawndal, arian a dalwyd felsetliad a rhwymedigaethau eraill o gwbl, sy'n deillio o neu mewn cysylltiad âthoriad gennych chi o ddefnyddio, ymweld neu gyfeirio at y Wefan.

 

Creu dolen i’r Wefan hon

Ni chewch greu dolen i’n tudalen hafan heb gaelein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Yn dilyn caniatâd o’r fath rhaidcyflwyno unrhyw ddolen o’r fath mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nadyw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno. Rhaid i chi beidio â sefydludolen mewn ffordd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neuardystiad ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli. Rhaid i chi beidio â sefydludolen o unrhyw wefan nad yw'n eiddo i chi.

Niddylai ein Gwefan gael ei fframio ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greudolen i unrhyw ran o'n gwefan ac eithrio'r hafan yn dilyn caniatâd ysgrifenediggennym ni y cyfeirir ato uchod. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu caniatâd creudolen yn ôl heb rybudd. Rhaid i'r wefan rydych yn cysylltu â hi gydymffurfio ymmhob ffordd â'r Hysbysiad Cyfreithiol hwn.

 

Gwefannau a chynnwys trydyddparti

Gall ein Gwefan gynnwys cyfeiriadau, dolennihyperdestun a dolenni at wefannau eraill ar y Rhyngrwyd ac nid ydym yncymeradwyo nac yn cynnal y gwefannau hyn na’r wybodaeth a ddarperir arnynt.Rydym yn darparu cynnwys trydydd parti o'r fath a dolenni fel cwrteisi i'ndefnyddwyr. Darperir dolenni er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhywreolaeth dros unrhyw wefannau neu gynnwys sy'n eiddo i drydydd parti y cyfeirirato, y gellir cael mynediad ato neu sydd ar gael ar y wefan hon ac, felly, nidydym yn cymeradwyo, noddi, argymell nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amwefannau neu gynnwys trydydd parti o'r fath nac am argaeledd gwefannau o'rfath. Nid yw PayByPhone yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhywddeunydd anllad, anghywir, difenwol, na deunydd amhriodol neu anghyfreithiolarall a allai fod mewn mannau eraill ar y Rhyngrwyd ac yn cael ei gyrchu trwyneu o’n Gwefan ni ac nid ydym yn gwneud unrhyw warantiad na chymeradwyaethynghylch ansawdd cynhyrchion a gwasanaethau a gynigir, hyrwyddir, cynhwysir,neu a ddosberthir trwy wefannau trydydd parti.

Preifatrwydd

Mae PayByPhone yn parchu eich preifatrwydd acwedi ymrwymo i'w ddiogelu. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn rhoi gwybod i chi amein harferion preifatrwydd, yn ogystal â'r dewisiadau y gallwch eu gwneudynghylch sut y caiff eich manylion eu casglu a sut y cânt eu defnyddio. Gallwchddarllen ef drwy glicio yma.

Newidiadau i’r Hysbysiad

Dylech argraffu copi o’r Hysbysiad hwn yn lleola’i gadw yn eich ffeiliau. Sylwch, fodd bynnag, fod gennym yr hawl ar unrhywadeg i newid, addasu, diwygio, adolygu, neu amnewid yr Hysbysiad hwn trwybostio’r fath hysbysiad a newidiwyd ar y Wefan ac y bydd y fath fersiwn newyddo’r Hysbysiad hwn yn llywodraethu’ch defnydd o’r Wefan. Nid oes gennymrwymedigaeth i ddarparu hysbysiad i chi o’r fath newidiadau. Rydych wedi’chrhwymo gan y fath newidiadau a dylech felly ymweld â’r dudalen hon i adolygu’rHysbysiad presennol o bryd i’w gilydd.

Awdurdodaeth a’r Gyfraith Berthnasol

Byddcyfreithiau Talaith British Columbia, Canada heb ystyried egwyddorion gwrthdarocyfreithiau, yn llywodraethu'r Hysbysiad hwn ac unrhyw anghydfod o unrhyw fatha allai godi rhyngoch chi a PayByPhone neu ei gysylltiadau, yn ogystal agunrhyw un o'u holynwyr a'u haseiniadau. Rydych hefyd yn cytuno i gydymffurfio âholl gyfreithiau, rheolau a rheoliadau lleol, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedigi’r rhai sy’n berthnasol i ymddygiad ar-lein a chynnwys Rhyngrwyd derbyniol. Yn achos defnyddwyr, maecyfreithiau lleol y wlad yn berthnasol lle mae gan y parti perthnasol ei sedd.

Sut i gysylltu â ni

Contacto


Dyddiad Gweithredol: 2022-03-31